Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (80)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymchwiliad Robert Powell (30 munud) |
4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu (60 miunud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-drefnu Addysg Uwch yn ne-ddwyrain Cymru (30 munud) |
6. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Remploy (30 mins) |
7. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys (30 munud) |
8. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Trydanu (30 munud) |
9. Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 - Gohirwyd tan 18 July NDM5038 Jane Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r
Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn cael ei
lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 30 Mai 2012.
|
10. Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012 - Gohirwyd tan 18 July NDM4988 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Dileu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus 2012 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012. Dogfen Ategol |
11. Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 - Gohirwyd tan 18 July NDM5037 Jane Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2012. Dogfennau
Atgol
|
12. Dadl ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2012-13 (30 munud) NDM5026 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 26 Mehefin 2012. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: (i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a (v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Dogfennau
ategol:
|
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 18 Gorffennaf 2012